Amdanom Ni
Croeso i wefan Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr. Bwriad y wefan yw darparu gwybodaeth angenrheidiol am drefniadaeth a chwricwlwm yr ysgol yn ogystal â gwybodaeth am y digwyddiadau a’r gweithgareddau niferus sy’n rhan o’r ddarpariaeth allgyrsiol.
Agorwyd Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr yn Ionawr 2013 mewn adeilad newydd gyda chyfleusterau pwrpasol. Mae’r ysgol yn ysgol ardal gyda phlant yn dod o dalgylch eang.
Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol. Yn y dosbarthiadau Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 y Gymraeg yw prif gyfrwng y dysgu. Yn y dosbarthiadau iau, defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg fel cyfrwng dysgu gyda’r nod o alluogi’r disgyblion i ddod yn gwbl ddwyieithog erbyn amser trosglwyddo i’r ysgol uwchradd.
Nod yr ysgol yw rhoi cyfle i bob disgybl i wireddu ei lawn botensial mewn amgylchedd gofalgar a chefnogol. Yr ydym yn anelu at sicrhau bod ein disgyblion yn cyflawni’n safonau uchaf posibl ac yn darparu pob cymorth iddynt wireddu hyn. Yn ogystal, rhown flaenoriaeth uchel i ddatblygiad personol a chymdeithasol ein disgyblion er mwyn eu cynorthwyo i ddatblygu’n ddinasyddion aeddfed a chyfrifol i’r dyfodol.
Staff / Pwy di Pwy
Ein Gwerthoedd Craidd
Staff Lleoliadau
Datganiad o Genhadaeth
Dosbarthiadau

