Croeso i wefan

Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr

Croeso cynnes i wefan newydd Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr ble ceir y wybodaeth ddiweddaraf am yr ysgol. Mae’r ysgol wedi datblygu a thyfu llawer ers ei sefydlu a rydyn ni mewn adeilad parhaol yng Nghwmtwrch Isaf ers mis Ionawr 2013. Mae arwyddair yr ysgol, “Law yn llaw, agorwn ddrysau’r dyfodol”, yn pwysleisio pwysigrwydd sicrhau bod pob disgybl yn yr ysgol hon yn cael y cyfle i ddatblygu i fod yn unigolion iach, hyderus ac uchelgeisiol sydd yn meddu ar sgiliau eang i’w cynorthwyo ar eu taith bywyd. Ein bwriad yw creu naws gartrefol, ddiogel a hapus o fewn ethos Gymreig, lle rhoddir cyfle cyfartal i bob unigolyn ddatblygu hyd at eithaf ei botensial.

E. Rofe

Pennaeth

LLun yr ysgol o dron